HYSBYSIAD 0 BENNU DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR

Cyngor Cymuned Llanddoged a Maenan

Y flwyddyn sy'n diweddu 31 Mawrth 2019

 

  1. Dyddiad y cyhoeddiad 1af Mehefin 2019

  2. Bob blwyddyn, mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copiau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais:

    Delyth Algireri
    Bryn Dedwydd
    Penrhiw,
    Llanddoged
    LL26 0BZ

    Rhif ffon – 01492 642183

    rhwng yr oriau 11.00 y.b. a 5 y.h. ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener
    gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2019
    a gorffen ar 26 Gorffennaf 2019

  3. 29 Gorffennaf 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i gwestiynu'r Archwilydd Cyffredinol ynglyn a'r cyfrifon. Gellir cysylltu a'r Archwilydd Cyffredinol drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton S014 3TL; ac

  • yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwrthwynebu'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton S014 3TL. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i'r cyngor.

  1. Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.